Yn ddiau maer gyfres Chwedlau Chwim yn syniad rhagorol. Fel yr awgryma enwr gyfres, nid ywr chwedlau'n rhy hir ac maer dewis o chwedlau hyd yma wedi bod yn un doeth. Mae hud arbennig yn perthyn ir chwedl hon o sir Gaerfyrddin. Stori sydd yma am Hywel yn syrthio mewn cariad merch hardd a gododd o donnau Llyn y Fan Fach. Fe briododd y ddau, a rhannu gwynfyd priodas am flynyddoedd lawer nes i'r ferch hardd ddychwelyd yn ddisymwth yn l ir llyn. Mae Meinir Wyn Edwards wedi llwyddo i gyflwynor stori yn hynod o gelfydd gan ddefnyddio idiomau megis ai ben yn ei blu i gyfoethogir dweud. Maer lluniau gan Morgan Tomos hefyd yn ychwanegu at hud y llyfr. Da o beth yw cael llyfr gwreiddiol Cymraeg yn cyflwyno un o brif chwedlau Cymru i gynulleidfa ifanc. Dyma lyfr syn addas i blant Blwyddyn 2 a rhai hyn ond gellir ei ddarllen i blant iau hefyd. John Roberts Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |